top of page
Search

LLIN: ymhell bell o fyd ffasiwn cyflym

Mae LLIN yn ffibr o blanhigion gyda hanes hir dros y byd, sy'n cael ei dyfu er mwyn gwneud lliain. Mae tystiolaeth o 36,000 o flynyddoedd yn ôl o ffibrau llin wedi'u prosesu, a ddarganfuwyd mewn ogof yn Georgia yn y mynyddoedd Cawcasws.


Mae gan lin hanes yng Nghymru hefyd, gydag olion cynhyrchu llin a lliain mewn enwau lleoedd fel Bryn Llinegr yn Sir y Fflint neu Arddlin ym Mhowys.


Oherwydd diwydiannu dydy cynhyrchu llin ddim yn economaidd erbyn hyn ac mae wedi dod i ben mewn sawl lle. Ond mae diddordeb cynyddol mewn llin trwy mudiadau fel Fibreshed, a Berta’s Flax.  Fibreshed, yr Economi Gylchol a Berta’s Flax.

ree

Mae prosiectau Llin cymunedol yn ymddangos dros y byd. Gallwch ddechrau trwy dyfu eich metr sgwâr eich hun o lin, a’i brosesu wedyn yn frethyn. Rhywfaint o'r llin rydyn ni'n ei ddefnyddio yn Tecstiliau wedi'i dyfu ar fferm leol Tyddyn Teg, rownd y gornel.


Mae gan arbenigwr llin Tecstiliau, Rosie Green, weledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru, “Dwi am weld mwy o brosiectau cymunedol yma yn tyfu a phrosesu llin. Byddwn wrth fy modd yn gweld plant yn dysgu am hyn yn yr ysgol."


“Mae’r ffibr hwn yn hen iawn, dan ni wedi’i ddefnyddio erioed i wneud ffabrig, mae’n dod o’r tir, mae’n hygyrch ac mae ar raddfa fach. Mae’n ffordd wych o decstilau, ymhell bell o fyd ffasiwn cyflym!"


“Dwi isio i bobl gofio bod hi’n bosib tyfu tecstilau. Mae’n rhan fyw o’n gwareiddiad a’n diwylliant. Dan ni’n medru tyfu a gwneud ein brethyn!”


Bydd gweithdy CYFLWYNIAD I LIN nesaf gyda Rosie ddydd Mawrth 7fed Hydref yma yn Tecstiliau ym Methel.

ree

“Mae gweithio gyda phobl eraill yn hwyl, mae fel cynaeafu hen ffasiwn dach chi’n ei wneud gyda’ch gilydd, creu rhywbeth o’r dechrau.


“Pan fyddwch chi’n gwneud rhywbeth o’r dechrau, o’r ffibr i’r cynyrch orffennedig, mae mor werth chweil. Mae’n cymryd amser yn hytrach nag arian. Dach chi'n gwneud rhywbeth sy'n arbennig ac o ansawdd uchel. Dach chi'n dod yn rhan o'r economi gylchol.”


Yr hyn a gewch chi o'r gweithdy hwn yw'r wybodaeth a'r sgiliau i allu dechrau ar eich taith eich hun gyda llin. Rydych chi'n profi'r broses gyfan o droi coesynnau planhigion heb eu prosesu yn edau lliain. Gallwch chi ei wneud eich hun neu gyda grŵp.


Mae na gwybodaeth am ein gwethdai yma.

 
 
 

Comments


If you would like to receive our regular email information and marketing please subscribe to our website on the 'Subscribe' page .
If you are looking to rsvp or book an event click on the RSVP/TOCYN button on the relevant event page.

©2019 by tecstiliau. Proudly created with Wix.com

bottom of page