Mae gwneud eich dillad eich hun yn swper-bŵer
- claire3562
- 7 days ago
- 1 min read
Ai 2026 yw'r flwyddyn pan fyddwch chi'n dechrau gwnïo eich dillad eich hun? Yn y gweithdy TOP SYML ar ddydd Sadwrn 28ain Chwefror 9.30yb-4.30yp byddwch chi'n gwnïo top hyfryd gyda chymorth Debra Drake o Sewing with Style a'r rhaglen BBC y Great British Sewing Bee.

“Mae fy ngweithdai ar gyfer dechreuwyr a gwnïwyr canolradd," dywed Debra. "Mae croeso i bawb ddod draw i ehangu eu sgiliau. Dwi'n credu bod pawb yn gallu gwnïo. Dim ond help llaw dach chi angen i ddechrau i godi eich hyder a dysgu eich ffordd o gwmpas peiriant gwnïo! Dechreuwch ar brosiectau syml nes i chi feistroli'r technegau, a llenwi’r cwpwrdd efo dillad dach chi’n eu caru."
Awgrymiadau Debra ar gyfer gwella eich sgiliau gwnïo
Nabod eich hun: Fel arfer, dwi'n gweithio efo technegau anodd yn y bore, pan dwi ar fy ngorau ac yn gweithio ar y rhan symlaf yn y pnawn
Ar ôl i bob sêm gael ei gwnïo, smwddiwch gyda lliain mwslin, sy'n rhoi gorffeniad gwell i'r dillad
Ewch du hwnt o be sy’n gyfforddus i chi a thrïwch rywbeth newydd

Yn ôl Debra, “Mae gwneud eich dillad eich hun yn fath o swper-bŵer. Dwi bob amser yn dweud eich bod chi’n medru bod yn fersiwn uwch o’ch hun, mewn dillad sy'n ffitio'n dda!" Daw ysbrydoliaeth greadigol hi o sioeau ffasiwn, o natur, ac o wylio pobl yn gwneud eu dillad a'u dyluniadau eu hunain yn ei dosbarthiadau. Ei phrif ddylanwad yw Coco Chanel, y dylunydd gwreiddiol a Chanel gan Karl Lagerfeld. Ei hoff ddylunydd arall yw Erdem Moralioglu.
Archebwch eich lle yma






Comments