Amdanom Ni
Ein cenhadaeth yw hwyluso'r gwaith o godi ymwybyddiaeth a datblygu a hyrwyddo sgiliau tecstilau yng Nghymru. Wedi'i sefydlu yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, mae Tecstiliau yn fudiad elusennol a grëwyd gan grwp bach sydd â diddordeb mewn hwyluso'r celfyddydau tecstilau fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Wrth wneud hynny, ein nod yw darparu 'lle' corfforol ar gyfer gweithgareddau tecstilau ond hefyd darparu 'lle' diwylliannol i amlygu pwysigrwydd celfyddydau tecstilau yng Nghymru.
​
​
Mae ein hamcanion allweddol yn gysylltiedig â chreu cymuned sy'n canoli'n bennaf ar weithgareddau tecstilau fel nyddu, gwehyddu, lliwio, brodwaith a gweithgareddau celf a chrefft eraill o'r fath sy'n seiliedig ar decstilau, a hynny ochr yn ochr â hyrwyddo gwneuthurwyr tecstilau o Gymru. Ein hamcanion allweddol yw:
· Darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ym maes tecstilau
· Cynyddu ymwybyddiaeth o ddiwydiannau tecstilau yng Nghymru
· Hyrwyddo gwneuthurwyr tecstilau Cymru
· Cyfle i wella eich lles personol.
​