Dathlu creadigrwydd eleni yn Tecstiliau
- claire3562
- Dec 24, 2025
- 2 min read
Yn Tecstiliau dan ni mor falch o'r holl grefftwyr dan ni wedi'u gweld yn gweithio ar eu prosiectau mawr a bach eleni. Dyma flas ar rai ohonynt.

Daeth Sarah P-J i'n gweithdy Origami Top, "Dwi'n mwynhau dod draw i Tecstiliau yn fawr iawn, mae'n awyrgylch hyfryd, hamddenol a chefnogol.
"Mae'r rhan fwyaf o grefftau'n cael eu gwneud ar eich pen eich hun, felly mae'n arbennig o braf dod at ein gilydd i ddod o hyd i syniadau ac ysbrydoliaeth newydd.
"Mae'r ochr foesegol ac amgylcheddol yn apelio ataf, rŵan dwi'n meddwl mwy am sut a lle dwi'n gwario fy arian a threulio fy amser."

Creodd Sue luniau bach sy' wedi gwehyddu, “Wnes i gychwyn yn ystod Covid, oedd rhaid i mi neud rhywbeth i dynnu'r meddwl oddi ar y straen.
"Tri o'r gloch yn y bore wnes i ddechrau gwehyddu, ac yn sydyn oedd o’n edrych fel caeau wrth y Fenai. Wnes i ddefnyddio edafedd efo gweadau gwahanol er mwyn creu waliau a choedwig uwchben.
"Yn raddol iawn, daeth Gogledd Cymru o fy mlaen i. A wnes i gael pleser o’r gwehyddu.
"Y flwyddyn yma maen nhw wedi cael eu fframio yn Oriel Ger y Fenai, wnaeth Bethan fy rhoi ar ben ffordd.”

Mae Francine yn mynychu Clwb Cwilt bob mis, "Dw i’n meddwl clywais i am Tecstiliau ar Facebook a gwelais bod yn lleol i mi.
"Felly rhaid i mi ddod i sesiynau Clwb Cwilt! Dw i’n gwerthfawrogi cwrdd â chyd-gwiltwyr sy’n rhannu angerdd am wnïo a chlytwaith.
"Dw i wrth fy modd â’r clwb a dim ond os dwi i ffwrdd bydda i'n colli sesiwn!
"Dw i hefyd wrth fy modd â’r blociau a’r triciau newydd dan ni’n eu dysgu bob mis. Diolch am drefnu!"

Hoff beth Rosie eleni oedd sgert gylchol wedi'i gwehyddu o edafedd o gotwm a sidan.
"Dôn i ddim yn hoffi'r edafedd ar y dechrau ond rôn i'n falch iawn efo'r sgert gorffenedig, mae'n hongian yn dda iawn.
"Roedd hi'n dda cadw at y prosiect a chreu eitem o ddilad defnyddiol. Roedd yn foddhaol iawn. Ar y cyfan, os dach chi'n cyfri'r oriau, dydy o ddim yn cymryd gormod o amser.
"Roedd yn wers i mi bod yn fwy dewr, a hefyd defnyddio'r holl ddarnau o ffabrig sydd gennych chi i greu rhywbeth a'i wisgo wedyn."
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!






Comments