top of page

TÎM

Mae ein tîm yn byw ar gyfer creadigrwydd sy'n gysylltiedig â ffibrau, edafedd a thecstilau wedi'u gwehyddu. Gyda golwg gyfannol ar gelf sy'n seiliedig ar decstilau, ein nod yw annog pob agwedd ar ddiwylliant tecstilau.
Mae ein diddordebau'n cynnwys cefnogi a hyrwyddo'r broses o gynhyrchu ffibrau, nyddu, gwehyddu, lliwio, brodwaith, tecstilau printiedig, cwiltio, ffasiwn a mwy. Rydym yn falch o gynrychioli Cymru o ardal Caernarfon, ac yn ddiolchgar am y cyfleoedd i gael ein hamgylchynu â phobl mor anhygoel sydd wedi cefnogi datblygiad yr elusen hon.

SARAH G. KEY

Sylfaenydd & Ymddiriedolwr

Drwy gydol ei gyrfa fel arlunydd, ymchwilydd ac addysgwr, mae Sarah wedi bod yn brysur ym maes celf a dylunio gydag arlunio, paentio, gwneud printiau a chelfyddydau tecstilau’n mynd â’i bryd. Dysgodd Sarah i wau pan oedd yn ifanc ac mae ail-gydio yn y diddordeb mewn gwau a thecstilau dros y 10 mlynedd diwethaf. O ganlyniad i’w diddordeb mawr mewn nyddu a gwehyddu symudodd i Ogledd Cymru yn 2012 ac ymunodd â'r urdd crefftau lleol. Ers dros 15 mlynedd, mae Sarah wedi bod yn addysgu celf gan helpu i ysbrydoli pobl ifanc i fod yn greadigol. Mae Sarah yn ddwyieithog (Saesneg, Ffrangeg) ac mae’n gwella ei sgiliau Cymraeg yn raddol.

ROSIE GREEN

Sylfaenydd & Ymddiriedolwr

Mae Rosie yn berchen ar stiwdio gwehyddu SAORImôr ym Mangor, Gwynedd, a sefydlodd yn 2014. Cafodd Rosie ei phrofiad cyntaf o wehyddu tra oedd ar gwrs tecstilau yng Ngholeg Gorllewin Surrey ac mae wedi bod yn gwehyddu ers hynny ar ôl gweithio’n wreiddiol mewn canolfan wehyddu yn Llanberis yn y 1980au. Ers iddi ddarganfod gwehyddu Saori, mae Rosie wedi teithio i Japan i astudio gwehyddu Saori gyda Misao Jo, sylfaenydd arddull Saori. Apêl arddull Saori yw ei fod yn ddull rhydd o wehyddu sy’n rhoi cyfle i fod yn greadigol.

DIWTORIAD GWEITHDY

Os hoffech gael eich ystyried fel tiwtor gweithdy ar gyfer ein rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous sydd i ddod, cwblhewch y ffurflen gais hon a'i chyflwyno ar e-bost i tecstiliau@gmail.com.

YMUNO â NI

Hoffech chi wirfoddoli fel rhan o'r tîm tecstiliau?

Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan fel ymddiriedolwr, arweinydd gweithdy neu wirfoddolwr i helpu Tecstiliau.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Ydych chi am fod yn rhan o'n rhestr bostio?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn digwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau eraill a fydd yn cael eu cynnal yn Tecstiliau? Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio isod i gael gwybodaeth gan Tecstiliau.

bottom of page