top of page
Search

Mwy am wneuthurwr basgedi Maggie

Bydd Maggie Evans yn rhedeg dau gweithdy yn Tescstiliau ym Methel ym mis Rhagfyr.


"Ers i mi ymddeol o fod yn athro celf mewn ysgol, dwi'n gwneud gwaith basgedi llawn amser: creu neu addysgu neu werthu neu arddangos. Dysgais wneud basgedi gyntaf gan Mandy Coates ar gwrs yng Nglynllifon ac astudiais wehyddu brwyn gyda Felicity Irons o 'Rush Matters'. Hefyd, enillais gymhwyster City & Guilds mewn Basgedwaith.

ree

"Byddwn ni'n defnyddio brwyn sy'n tyfu mewn dŵr croyw. Ond dim ond o rai mannau yn y DU y gallwch chi gynaeafu brwyn, ac mae'n rhaid i chi fod yn aelod o Gymdeithas y Gwneuthurwyr Basgedi.


"Dim ond un masnachwr sydd yn y DU ac maen nhw wedi'u lleoli yn Swydd Bedford, sy’n bell o Ynys Môn. Mi wnes i gynaeafu'r brwyn dan ni'n ei defnyddio yn y gweithdai o leoliad cyfrinachol mewn gardd breifat yn Swydd Gaer! Mae wedi bod mor gyffrous i mi dorri'r frwynen fy hun, ei sychu a'i defnyddio. Mae'r brywn yma yn hyfryd i’w gwehyddu.


"Mae'r frwynen - neu’r llafrwynen neu’r dostfrwynen - yn ddeunydd sy’n cael ei ddefnyddio ers amser maith. Basai brwynen wedi cael ei defnyddio'n gyffredin ar gyfer esgidiau, hetiau, bagiau, seddi a matiau llawr. Basech chi wedi dod o hyd i fatiau brwyn mawr mewn tai hen ffasiwn, yn enwedig mewn coridorau. Mae'n grefft dreftadaeth ac nid oes cymaint â hynny o wneuthurwyr brwynen nawr!

ree

"Ar gyfer y cwdyn byddwn ni hefyd yn defnyddio cynffon y gath a rhisgl. Mae cynffon y gath - a elwir hefyd yn Ffon y plant, Ffynwewyr Ellyllon, neu Tapr y Dŵr - wedi'i gynaeafu o bwll yn Llangoed a Chwrs Golff Henllys ym Miwmares. Y rhisgl y byddwn ni'n ei ddefnyddio fydd naill ai ewcalyptws o goed ym Mhlas Newydd neu risgl helyg a gynaeafwyd yn lleol.


"Mae gan Ynys Môn draddodiad Moresg y mae rhai yn gobeithio ei adfywio. Roedd gwehyddu moresg yn gyffredin yn ardal Niwbwrch, lle mae'n tyfu ar y twyni, ac fe'i defnyddiwyd yn aml i wneud rhaffau neu i wneud gorchuddion i fynd dros das o wair. Ond mae moresg yn laswellt byr sy'n cael ei brosesu trwy dechnegau coilio a phlethu, tra bod y llafrwyn a chynffon y gath yn hirach efo gwead gwahanol ac maen nhw angen technegau gwahanol.


"Dwi hefyd yn mwynhau celfyddyd basgedwaith. Ar hyn o bryd dwi'n gweithio ar ddarn ar gyfer Galwad Agored Storiel, gan gyfuno strwythur gwehyddu â chlai a thywod o'm traeth lleol. Mae ffurfiau dwi'n eu gweld wrth gerdded yn ysbrydoli’r gwaith. Dwi hefyd yn gweithio ar ddarn ar gyfer prosiect ‘Coed Coexist’ ym Mhlas Glyn-y-Weddw, gan ddefnyddio Ffawydd."


"Ym mis Rhagfyr, bydda i’n rhedeg dau weithdy yn Tecstiliau. Y gweithdy cyntaf yw gwneud cwdyn petryalog, gan wehyddu gyda brwyn, cynffon y gath a rhisgl. Yr ail weithdy yw gwehyddu basged gron o frwyn, gan ddefnyddio techneg gylchol."



 
 
 

Comments


If you would like to receive our regular email information and marketing please subscribe to our website on the 'Subscribe' page .
If you are looking to rsvp or book an event click on the RSVP/TOCYN button on the relevant event page.

©2019 by tecstiliau. Proudly created with Wix.com

bottom of page