top of page
Search

Sut mae Technoleg yn ein helpu i fod yn greadigol!

Dyma yn Tecstiliau ym Methel dan ni wrth ein bodd efo crefftau traddodiadol ymarferol, fel nyddu, llifynnau naturiol a chwiltio.


Dan ni ddim yn erbyn defnyddio technoleg mewn ffordd sgilgar ac isel ei effaith.


Dan ni'n Hwb Ffiws a "gofod gwneud", ac yn rhan o rwydwaith o ofodau cymunedol dros Ynys Môn a Gwynedd sy'n cefnogi pobl gyffredin i greu, trwsio ac ailddefnyddio!


Dan chi'n gallu defnyddio ein peiriannau am ddim, fydd yn helpu chi wneud gwrthrychau cymhleth mewn ffordd hygyrch.


Mae TUNiTECS yn gyfres o gynhyrchion i helpu i gefnogi eich crefftio, dan ni wedi eu creu yn y gofod gwneud. Edrychwch ar ein Kit Gwŷdd Bach, Pecyn Lliwio Naturiol ac ein Plygwr Breichled.


ree

Os dach chi'n chwilio am anrheg hyfryd am ben-blwydd neu Nadolig, mae yno eitemau wedi'u gwneud â llaw fel sialau, blancedi a sgarffiau yn ein siop ar-lein. Darnau unigryw yw'r rhain: unwaith y byddan nhw wedi mynd, maen nhw wedi mynd!



Dach chi isio defnyddio FFIWS i greu rhywbeth?


Mae croeso i chi ddod i ddarganfod ein gofod gwneud. Mae gynnon ni Dril Laser, Argraffydd Sychdarthu, Gwasg Mygiau, Argraffydd 3D ac, wrth gwrs, Peiriannau Gwnïo a Brodwaith.

ree

Mae'n bosib creu eich prototeipiau a'ch dyluniadau eich hun.


Dan ni'n gofyn eich bod chi'n archebu slot ar nos Fercher neu nos Iau er mwyn i ni ddangos i chi sut mae'r cyfan yn gweithio.



 
 
 

Comments


If you would like to receive our regular email information and marketing please subscribe to our website on the 'Subscribe' page .
If you are looking to rsvp or book an event click on the RSVP/TOCYN button on the relevant event page.

©2019 by tecstiliau. Proudly created with Wix.com

bottom of page