PROFFIL TIWTOR: Debra Drake
- claire3562
- Aug 14
- 2 min read
Updated: Aug 18
Yn un o'n tiwtoriaid mwyaf poblogaidd, dechreuodd Debra ddysgu gwnïo pan oedd hi ond yn naw oed mewn clwb ar ôl ysgol am ddim yn ei chymuned. Er iddi weithio yn y byd corfforaethol am rai blynyddoedd, penderfynodd ddechrau ei grŵp gwnïo cymunedol ei hun yn Llanfairfechan yn 2014.
Tua'r adeg honno cymerodd risg a gwneud cais am y gyfres deledu ar y BBC, "The Great British Sewing Bee". Enillodd hi le ar y rhaglen ac fe fwynhaodd hi'n fawr iawn. Roedd cyrraedd y rownd derfynol yn un o eiliadau mwyaf balch ei bywyd!
Ar ôl i'r sioe gael ei darlledu yn 2022, daeth llawer o gyfleoedd i Debra, ond fe wnaeth barhau â'i busnes craidd o helpu eraill i ddysgu sut i wnïo a dechreuodd ei busnes ei hun, "Sewing with Style" yn fuan wedi hynny.

Daw ysbrydoliaeth greadigol Debra o sioeau ffasiwn, o natur, ac o wylio pobl yn gwneud eu dillad a'u dyluniadau eu hunain yn ei dosbarthiadau. Ei phrif ddylanwad yw Coco Chanel, y dylunydd gwreiddiol a Chanel gan Karl Lagerfeld. Ei hoff ddylunydd arall yw Erdem Moralioglu.
Ym mis Medi, bydd Debra yn dod i Tecstiliau ym Methel i arwain gweithdy penwythnos ar y 6ed a'r 7fed. Bydd hi'n eich tywys trwy'r camau i wneud eich "siaced ddenim amgen" eich hun. Mae Debra wedi bod yn hoff o siacedi denim erioed, ac mae wedi llunio dyluniad amgen arloesol gyda gwddf uchel sy'n gain ac yn wahanol.
Dywed Debra, "Rydw i wrth fy modd yn dod i Tecstiliau gan wybod bod cyfranogwyr y cwrs yn barod ac yn fodlon creu rhywbeth hardd. Mae'r gweithle yn dawel ac yn ymarferol gyda chymuned mor gefnogol a brwdfrydig."

"Cynghorion Gorau" gan Debra
• Archwiliwch wnïo "araf" fel ffordd o ymlacio
• Mae uwchgylchu mor greadigol a bydd yn parhau i fod yn ffasiynol
• Archwiliwch eich cwpwrdd dillad yn rheolaidd i leihau gwariant/defnydd diangen
Mae'r penwythnos efo Debra ym mis Medi yn llawn! Dan ni'n trefnu gweithdai eraill gyda hi yn y flwyddyn nesa. Dewch o hyd i amserlenni diweddaraf ar ein wefan: tecstiliau.org
Comments