Pam mae'r pobl yn dod i Gaffi Trwsio?
- claire3562
- Jun 15
- 2 min read
Cadwch ef allan o safleoedd tirlenwi
Mae ein Caffi Trwsio misol yn ymwneud â'ch helpu chi i drwsio'ch pethau eich hun. Bydd ein hatgyweiriwyr gwirfoddol yn gwneud eu gorau i helpu gyda beth bynnag a ddewch ag ef i mewn...
Tegelli, torwyr gwrychoedd, gliniaduron, argraffyddion, clociau, lampau, dillad, eitemau addurniadol... Mae gennym ni 'prawf iechyd' beiciau ar gael hefyd.

Pam ei wneud?
"Does ddim angen i ni fynd allan a phrynu pethau newydd, gallwn ni eu trwsio," meddai Rosie Green, cyd-sylfaenydd Tecstiliau, sefydliad sy'n adnabyddus fel canolfan ar gyfer tecstilau cynaliadwy yn y rhanbarth. "Pan fyddwch chi'n cymryd cyfrifoldeb am ddysgu sut i drwsio pethau, mae'n rhoi boddhad a hunanhyder enfawr. Gwnaeth y chwyldro diwydiannol inni anghofio hynny!"
Yn ôl Lowri Hedd o Gwyrdd Ni, a helpodd i sefydlu'r Caffi Trwsio ym Methel, "Mae costau amgylcheddol gweithgynhyrchu yn enfawr. Mae prynwriaeth a thafladwyedd yn broblem fawr. Hefyd, mae costau byw yn cynyddu ac mae budd ariannol o wneud i'ch pethau bara'n hirach."
Nid dim ond trwsio pethau ydyw
Mae Caffi Trwsio hefyd yn lle gwych i gwrdd â chymdogion o gwmpas Bethel. Daw pobl fis ar ôl mis i gefnogi ei gilydd, cael paned a dal i fyny.
"Mae'n rhoi cymaint o ysbrydoliaeth i mi yn helpu bobl a chael help gan eraill," meddai Rosie, sy'n aml yn dangos i bobl sut i drwsio rhwygiadau a thyllau yn eu dillad, neu wnïo botymau ymlaen.
Dywed Lowri, "Mae mor bwysig adeiladu cymuned a gwerthfawrogi'r adnoddau lleol sydd gennym yn ein gilydd, i deimlo bod yna bobl y gallwch droi atynt pan fyddwch angen help."

Ymunwch â ni ar ail bnawn Sul bob mis 1-3yp yn Tecstiliau ym Methel.
Comentarios