top of page
Search

Mwy am ein tiwtor brodwaith, Katherine Keatley

Bydd y gweithdy BRODWAITH 'KILLER RABBIT' efo Katherine dydd Sadwrn 7fed Mehefin.

"Dwi wedi bod yn gwnïo ers yn ifanc iawn ac mi wnes i ddysgu'r rhan fwyaf ohono fy hun. 

I mi, mae defnyddio nodwydd ac edau i greu delwedd yn ail natur.  Mi ddysgais i rai elfennau o frodwaith edafedd (crewel work) i mi fy hun oherwydd fy mod i wrth fy modd â llif y dyluniadau a'r pwythau.



"Yna, mi es ati i astudio'r dechneg yn Ysgol Frenhinol Gwaith Nodwydd. Mae'n dal i fod yn un o'm hoff dechnegau a dwi'n defnyddio sawl elfen ohoni yn fy ngwaith.


"Dwi'n cael fy ysbrydoli gan fyd natur, dreigiau, lliw a gwead. Dwi hefyd yn cael fy ysbrydoli gan y tirweddau o gwmpas lle dwi'n byw yn Ninas Mawddwy: Camlan, carreg Arthur. Dwi'n mynd heibio Cadair Idris o leiaf unwaith yr wythnos. Dydw i byth yn blino ar ei weld. Fel plentyn, roeddwn i wrth fy modd â mynyddoedd y Rhinogydd, gan weld y marciau a adawyd gan rewlifoedd ar y creigiau, a gwybod eu bod nhw wedi bod yno yn ddigyffwrdd ers yr Oes Iâ ddiwethaf.


"Mae hyn yn cael effaith bwerus arna i ac mae hyn i gyd yn dylanwadu ar fy ngwaith.

Un o'm hoff greadigaethau oedd Tylluan Frech. Roeddwn i'n defnyddio chwe nodwydd ar yr un pryd, gyda phob un ag un llinyn o edau. Mi wnes i weithio'r dylluan dros dridiau tra oeddwn i ar fy mhen fy hun mewn bwthyn gyda dim ond y cŵn yn gwmni. 


"Mae brodwaith yn hobi 'araf' yn y byd sydd ohoni, ac mae'n rhoi cyfle i bobl ddal eu gwynt a chymryd amser i ffwrdd. Gall fod yn addurniadol, ac yn bleserus. Mae'n waith greadigol hefyd. Gall pobl ei ddefnyddio mewn sawl ffordd i fynegi eu hunain a'u safbwynt.


"Yn ddiwylliannol, mae gan lawer o wledydd hanesion anhygoel sy'n cael eu mynegi a'u cadw'n fyw gan frodwaith a thecstilau, gan drosglwyddo straeon ac ystyron. Mae trwsio gweladwy, sy'n ymestyn oes dillad a thecstilau eraill, yn ein helpu i fod yn fwy cynaliadwy a thaflu llai o bethau i ffwrdd."


Mae'r gweithdy yn addas i unrhyw un sy'n mwynhau brodwaith arwyneb, neu sydd eisiau ychwanegu at eu llyfrgell bwythau, neu a hoffai ddatblygu eu sgiliau brodwaith edafedd.

 
 
 

Comentarios


If you would like to receive our regular email information and marketing please subscribe to our website on the 'Subscribe' page .
If you are looking to rsvp or book an event click on the RSVP/TOCYN button on the relevant event page.

©2019 by tecstiliau. Proudly created with Wix.com

bottom of page