Mae lliwiau COCH yn bwerus
- claire3562
- Jul 18
- 1 min read
Bydd ein gweithdy COCH ddydd Gwener 1af Awst. Mae lliwio naturiol wedi bod o gwmpas ers o leiaf 5,000 o flynyddoedd.
Ers dechrau ein gardd lliwio yn Tesctiliau yn 2021 dan ni wedi tyfu Indigo Japaneaidd, Camri Lliwwyr, Cochwraidd/Madr, Tansi, Milddail, Melynog y Waun, Bodyn Trogod, Melin Mair, Cosmos, Glaslys/Llysiau Lliw, a Melengu.
Dan ni’n defnyddio'r blodau, y dail neu'r gwreiddiau yn dibynnu ar y planhigyn. Er mwyn addasu’r lliwiau dan ni’n defnyddio sylweddau eraill fel haearn, amonia a thaninau o ddeunyddiau planhigion, er enghraifft rhisgl coed.
Dywed tiwtor y gweithdy a chyd-sylfaenydd Tesctiliau, Sarah Key, “Lliwiau coch yn bwerus!”
“Yn y gweithdy hwn byddwn yn gweithio efo Cochwraidd, Cochineal a Lac, sy'n deillio'n naturiol o wreiddiau a phryfed. Maen nhw’n ei wneud yn bosib i greu ystod o arlliwiau o goch er enghraifft pinc golau, cochfrown a choch rhuddem.”
Mae gan liwiau naturiol lawer o fanteision. Maen nhw’n achosi llai o ddifrod i'n hamgylchedd ac maen nhw’n well i'n croen.

Gweithdy efo grŵp bach fydd hwn, efo lle i chwech ar y mwyaf, felly byddwch yn cael cefnogaeth unigol mewn awyrgylch cefnogol a chymdeithasol, i dyfu eich hyder.
Er bod lliwiau naturiol yn deillio o ffynonellau naturiol, mae'n dal i fod yn broses gemegol a rhaid cymryd gofal bob amser i weithio'n ddiogel. Mae Tescstiliau yn lle saff efo digon o offer a chyfleusterau, ac yn berffaith ar gyfer y weithdy.
Mae gweithdy COCH ddydd Gwener 1af Awst o hanner dydd tan 4yp. Archebwch eich lle nawr a dewch i ddarganfod byd hudolus lliwiau naturiol.

Archebwch ein gweithdai yma






Comments