top of page
Search

Prosiect Llin @tecstiliau.cymru efo Tyddyn Teg Cooperative

Mae diddordeb cynyddol ledled y DU mewn llin i gynhyrchu edafedd lliain ar gyfer tecstilau. Mae'n gyfeillgar i'r amgylchedd, yn ddiogel i’r hinsawdd ac, fel planhigyn, mae ganddo lawer o fanteision i'n pobl a'n tir. Rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu tecstilau, o bridd i bridd, yn unol â'r economi gylchol a lleoleiddio. Yn debyg i fwyd, rydym yn dymuno datblygu ffibrau artisan, cynhyrchion arbenigol a gynhyrchir gartref mewn dull adfywiol, hirhoedlog, gwastraff isel. I gynhyrchu ein llin rydym yn cydweithio â Thyddyn Teg fel fferm gymunedol gydweithredol, rownd y gornel o’n lleoliad. Rydyn ni’n cadw'r cyfan yn lleol iawn!


Gan ddechrau ym mis Mehefin plannodd y prosiect hadau yn Nhyddyn Teg yn eu caeau fferm adfywiol. Roeddem braidd yn hwyr oherwydd yr amser plannu a argymhellir yw Ebrill/Mai. Fodd bynnag, rydym wedi plannu tua 12 metr sgwâr ac yn gobeithio am y gorau. Wrth wylio ac aros, tyfodd y llin yn iach a chryf. Roedd cryn dipyn o chwyn ond cododd y llin uchder a thyfu'n fwy na'r chwyn heb unrhyw broblemau.


Ar ôl ychydig dros 100 diwrnod o blannu’r hadau roeddem yn barod i'w cynaeafu. Roedd y planhigion yn dal yn eitha gwyrdd ac roedd ganddyn nhw dipyn o flodau, ond dwi’n siŵr y byddwn ni’n dal i gael ffibr da yn y diwedd.


Roedd ein diwrnod cynhaeaf, ganol mis Medi, yn sych ac yn llonydd. Mae tynnu'r llin yn syml iawn a chydag 8 o bobl dim ond tua 2 awr a gymerodd. Ar ôl tynnu, clymwyd y llin mewn bwndeli a'i lwytho i gefn y Berlingo dibynadwy i'w gludo i'w storio yn ein fferm gyfagos (diolch Mark Jones o Cefn Llan Fibre Flock!).


Y cam nesaf yw dechrau prosesu gyda chrychu. Dyma'r broses o dynnu'r planhigion trwy grib i dynnu'r hadau. Rhaid gwneud y cam hwn cyn ei storio dros y gaeaf er mwyn atal diddordeb cnofilod. Os hoffech chi helpu mewn unrhyw ffordd cadwch eich llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol gan nad yw ein dyddiau 'crychu' wedi'u cadarnhau eto ond byddant yn digwydd o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.


Gan ein bod mor hwyr yn phlannu rydym wedi penderfynu gadael gweddill y prosesu tan y flwyddyn newydd. Os bydd amser yn caniatáu byddwn yn parhau â'r gwaith o fraenu'r llin (lledaenu’r llin ar y ddaear i’w bydru digon nes ei fod yn hawdd i gael gwared ar y sylwedd llysiau), yna parhau â'r camau prosesu i wneud y ffibrau'n barod i'w nyddu. Bydd hyn yn digwydd yn Tecstiliau yn 2023.


Byddwn yn cynnal gweithdai ar brosesu a nyddu’r ffibr ac yn ddiweddarach byddwn yn anelu at gyflwyno gwehyddu i wneud lliain o’n llin a dyfir yn lleol. Parhewch i'n dilyn wrth i ni ddatblygu ein sgiliau ac ymunwch â ni i ddatblygu eich rhai chi hefyd!





24 views0 comments

Comments


bottom of page