Gwau Dirgel 'OLWEN' Mystery Knit-a-Long
Gwen, 01 Hyd
|via email
Byddwn yn arwain digwyddiad 'gwau dirgel' yn seiliedig ar chwedl Gymraeg yn ystod mis Hydref. Ydych chi’n ystyried gwau rhywbeth i rywun arbennig? We will be leading a Welsh mythology ‘mystery knit-a-long’ during October. Are you looking to knit something for someone special? Ymuno / Join.


Time & Location
01 Hyd 2021, 09:00 GMT+1 – 05 Tach 2021, 21:00 GMT
via email
Guests
About the Event
[English below, click 'read more']
Byddwn yn arwain digwyddiad 'gwau dirgel' yn seiliedig ar chwedl Gymraeg yn ystod mis Hydref. Ydych chi’n ystyried gwau rhywbeth i rywun arbennig? Dyma gyfle gwych i wneud hynny. Gyda phum penwythnos ym mis Hydref, byddwn yn rhannu rhan o'n patrwm siôl sydd wedi'i ysbrydoli gan 'Olwen'. Roedd Olwen, yn gymeriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen, ac yn ferch i Ysbaddaden Bencawr. Cyfeirir ati hefyd fel 'duwies yr haul' sy'n gysylltiedig â themâu'r celfyddydau a chreadigrwydd. Dyluniwyd y patrwm gan @blethu.wales wedi'i ysbrydoli gan elfennau o chwedl Olwen a themâu’r Mabinogi. Daw'r patrwm mewn 5 rhan, mae rhan 5 yn rhan ddewisol, ganolradd mewn pwythau 'brioche'. Bydd pob rhan arall yn addas i ddechreuwyr ac yn defnyddio amrywiadau o bwyth i’r dde a phwyth i’r chwith a thynnu’r edafedd drosodd. Bydd sesiynau tiwtorial ar-lein yn cael eu postio ynghyd â'r patrwm i helpu i…